R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a
Chwaraeon
1.
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw
gymorth y gall ei roi i gymunedau sy'n dymuno cynnal cofebion
rhyfel? OAQ(4)0053(CS)
2. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
ei raglen waith i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru?
OAQ(4)0052(CS)W
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i'r berthynas rhwng chwarae a chwaraeon wrth ddatblygu ei bolisïau? OAQ(4)0045(CS)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau chwaraeon yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0039(CS)
5.
Keith Davies (Llanelli): Pa
drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng y Gweinidog a'i swyddogion a
Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglŷn â Chlwb
Pêl-droed Llanelli OAQ(4)0051(CS)W
6. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am gyfranogiad mewn chwaraeon ar gyfer pobl
anabl yng Nghymru? OAQ(4)0048(CS) TYNNWYD YN ÔL
7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y cymorth a roddir i sefydliadau celfyddydol sy'n
cynrychioli Cymru dramor? OAQ(4)0044(CS)
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ddatblygu chwaraeon morol
yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0038(CS)
9. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog plant i gymryd rhan mewn
chwaraeon fel rhan o ffordd iach o fyw? OAQ(4)0037(CS)
10.
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae
ei adran wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag S4C?
OAQ(4)0046(CS)W
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei
gynlluniau i ehangu gwybodaeth am hanes diwylliannol Cymru?
OAQ(4)0050(CS)
12. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad
am gynnal digwyddiadau diwylliannol yng ngogledd Cymru?
OAQ(4)0047(CS) TYNNWYD YN ÔL
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y
Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo
treftadaeth lenyddol Cymru? OAQ(4)0041(CS)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu rôl theatr yng Nghymru o ran cyflwyno'r celfyddydau i gymunedau? OAQ(4)0043(CS)
15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae treftadaeth Dwyrain De Cymru yn cael ei hyrwyddo i annog adfywio'r rhanbarth hwn? OAQ(4)0040(CS)